P-04-396  Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i wneud hyfforddiant sgiliau triniaeth cynnal bywyd brys (ELS), gan gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd hanfodol (CPR) yn rhan  orfodol o’r cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.  Byddai hyn yn ffurfio rhan o’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd y mae plant yn ei chael yn yr ysgol ac yn creu cenhedlaeth newydd o achubwyr bywyd ledled Cymru.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Sefydliad Prydeinig y Galon

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012

Nifer y llofnodion:  Cyflwynwyd y ddeiseb gan Sefydliad Prydeinig y Galon. Casglwyd deiseb gysylltiol tua 4,000 o lofnodion.